Trefnwyr Angladdau Caerfyrddin a’r Cylch


Fel cwmni teuluol mae ganddom 30 mlynedd o brofiad o gynnig cyngor a chefnogaeth i deuluoedd gorllewin sir Gâr. Os yw’r gwaethaf yn digwydd, cysylltwch â ni a byddwn at eich gwasanaeth.


Angen ar Unwaith



Mae Glanmor Evans a’i Fab ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Ffoniwch ni ar 01267 237100 a bydd aelod o’n teulu ar gael i siarad â chi.

Manylion cysylltu

Capel Gorffwys

Lleolir Capel Gorffwys Login yn y wlad un milltir ger tref Caerfyrddin. Hen Ysgol Gynradd y plwyf yw’r adeilad ac fe codwyd yr ysgol yn 1868. Fe cydnabyddwyd Glanmor Evans gan Gymdeithas Ddinesig Caerfyrddin am ei waith yn adnewyddu’r adeilad. Dyma’r unig Gapel Gorffwys o’i fath yn yr ardal.

CERBYDAU

Mae ganddom hers Vauxhall newydd a rydym yn gallu darparu ceir angladd o bob math ar eich cyfer.

Mwy

Blodau

Rydym yn cydweithio yn agos gyda chwmnioedd trefnu blodau lleol o’r safon uchaf.

Mwy

CYNLLUN ANGLADD

Gall Cynllun Angladd Golden Charter arbed gofid a chost i'ch teulu, a helpu i wneud pethau'n haws ar adeg anodd. Mae ein cwsmeriaid yn dweud wrthym ni y bydd hynny yn bwysau mawr oddi ar eich meddwl. Mae hefyd yn caniatáu i union ddymuniadau rhywun gael eu cofnodi. Gyda Chynlluniau Angladd Golden Charter rydych chi’n cael y gorau o ddau fyd, sef diogelwch un o ddarparwyr Cynllun Angladdau mwyaf y DU, a’r sicrwydd o ddelio â busnes teuluol lleol sy’n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth personol a phroffesiynol bob amser.

Yn seiliedig ar werthu 14% o gynlluniau angladd yn y DU yn 2021. Ffynhonnell: Awdurdod Cynllunio Angladdau maint y farchnad o werthiannau cynlluniau angladd newydd yn 2021 ym mis Mawrth 2022.

Mwy
"Everything went so smoothly and was exactly as we wanted. Thank you also for all your hard work and the kindness which allowed us to feel that we were celebrating his life as well as mourning his loss."
"You guided us through every step of the way in a professional and caring manner and we cannot speak highly enough of your organisation of the event."
"Diolch o galon am y gofal, cymorth a’r trefniadau a derbynion ni fel teulu. Diolch hefyd am edrych ar ei ôl yn y Capel Gorffwys. Roedd yn gysur gwybod taw ti oedd yn edrych ar ei ôl.”