


Ein hanes
Yn 1962 dechreuodd Glanmor Evans fel prentis gyda Adeiladwyr Glyn Harvey yn Heol Awst, Caerfyrddin. Yn dilyn marwolaeth Glyn symudodd i weithio fel saer coed yn Adran Ystadau Cyngor Sir Gâr o dan arweiniad Bryn Rogers yn y siopwaith yn Hen Heol Llangynnwr. Wedi llawer o blynyddoedd hapus, sefydlodd Glanmor ei fusnes ei hun yn 1983 ac mae ei waith coed dal i’w weld hyd heddiw mewn amryw le. Efallai mae’r prosiect mwyaf a gwblhaodd oedd pum ffenest liw enfawr sydd i’w gweld yng nghanol Eglwys Crist, Caerfyrddin. Glanmor hefyd greodd drysau allanol Eglwys Crist, ynghyd â drysau Capel Newydd, Llanybri. Bu hefyd yn creu meinciau ar gyfer pentrefi lleol, gan gynnwys y fainc yn Llanybri er cof am JH Davies.
Ym 1986 bu farw Mrs Annie Davies, Cwm Clyd, Llansteffan. Yn ôl y traddodiad gofynnwyd i’r saer lleol i ymgymryd a’r angladd. Dyma’r dechreuad. Trefnwyd tair angladd yn ystod y flwyddyn gyntaf. Erbyn heddiw mae’r cwmni yn trefnu tua 200 o angladdau y flwyddyn. Mae’n nhw’n dweud y tu ôl i bob dyn da mae yna fenyw gwell! Mae hyn yn sicr yn wir gyda Glanmor a’i wraig Wendy. Mae ei sgiliau gweinyddol heb ei thebyg, ac mae’n dal i rhedeg y swyddfa fel watsh. Dros y 30 mlynedd diwethaf mae Glanmor a Wendy wedi trefnu angladdau o bob math mewn amrywiol leoliadau.
Efallai mai’r mwyaf oedd angladd y diweddar Ray Gravell ar Barc y Strade ar 15 Tachwedd 2007. Fe ddaeth dros saith mil o bobol yno i dalu teurnged i Grav a darlledwyd y gwasanaeth yn fyw ar S4C.
Yn 2008 fe ddaeth cyfle i brynu hen Ysgol Login ar Heol Llangynnwr, tua filltir o dref Caerfyrddin. Dyma ddechrau ar y gwaith o drawsnewid yr hen adeilad i Gapel Gorffwys newydd.
Byddai hyn ddim wedi digwydd heb cymorth hael a chefnogaeth parod nifer o ffrindiau (yn enwedig Dewi Evans, Egwad Evans a Goronwy Walters). Yn 2011 derbyniodd Glanmor a Wendy Gwobr Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin am eu gwaith yn adfer a diogelu yr adeilad hanesyddol hwn. Capel Gorffwys Login yw’r unig Gapel Gorffwys o’i fath yn yr ardal. Dyma nawr yw cartref y cwmni.
Yn 2011 ymunodd Iwan Evans fel aelod o staff llawn amser, gan sicrhau fod y genhedlaeth nesaf o Drefnwyr Angladdau yn diogelu dyfodol y cwmni. Bellach mai cwmni Glanmor D Evans a’i Fab yn cyflogi nifer o staff o’r safon uchaf.
Pan mae marwolaeth yn digwydd bydd yna aelod o staff profiadol a chyfeillgar at eich gwasanaeth.



Wrth edrych yn ôl dros 30 mlynedd mae egwyddorion Glanmor a Wendy mor gadarn heddiw ag oedd wrth ddechrau trefnu angladdau yn 1986.
Yn syml iawn, i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf i’r gymuned ac i edrych ar bob teulu fel rhan o’u teulu nhw.
“Diolch am eich gwasanaeth proffesiynol ar achlysur trist iawn yn ein bywyd.”
“Gyda diolch am bob arweiniad ac am gyflawni’r holl drefniadau yn ôl ein dymuniad.”
“Rydych chi wedi bod yn broffesiynol iawn ac wedi gwneud yr holl broses yn ddi-drafferth i ni fel teulu.”